Blaenoriaeth Cylch Meithrin Glantwymyn yw hapusrwydd, datblygiad a diogelwch pob plentyn. Cynigir y gofal gorau posib mewn awyrgylch hapus a chartrefol, a chyfle i bob plentyn ddysgu trwy chwarae a datblygu i’w lawn botensial.

Mae’r Cylch yn cynnwys offer, teganau ac adnoddau o’r ansawdd uchaf, sy’n adlewyrchu anghenion, datblygiad ac oedran y plant. Rhoddwyd sylw manwl i gynllunio’r mannau chwarae tu allan, er mwyn cynnig cyfleoedd a gosod pwyslais ar weithgareddau ysgogol i blant yn yr awyr agored gan roi llais y plentyn yn gyntaf. Mae staff cymwys a phrofiadol yn gyfrifol am sicrhau fod pob plentyn yn derbyn gofal a sylw tyner a phriodol.

Rhoddir ystyriaeth i anghenion a datblygiad pob plentyn unigol yn cynnwys cymdeithasu, dysgu a chwarae. Trwy gofrestru eich plentyn yng Nghylch Meithrin Glantwymyn gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd camau bychain cyntaf eich plentyn yn rhai sicr a hyderus.

Sefydlwyd Cylch Meithrin Glantwymyn ym 1972. Ein bwriad yw i ddarparu gofal sesiynol ac addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel i blant o 2 flwydd oed drwy gyfrwng y Gymraeg hyd at oed ysgol (sef y mis Medi ar ôl iddynt gael eu pen-blwydd yn 4 oed).

Gweithgareddau: 

Byddant yn cynnwys gweithgareddau sydd yn seiliedig ar ofynion Cwricwlwm i Gymru ar gyfer Cylchoedd meithrin, sydd yn canolbwyntio ar anghenion y plentyn i fod yn

● Ddysgwyr uchelgeisiol, galluog

● Cyfranwyr mentrus, creadigol

● Dinasyddion moesegol, gwybodus

● Unigolion iach ac hyderus

Defnyddir y pum llwybr datblygu sef perthyn, cyfathrebu, archwilio, datblygiad corfforol a lles i gynllunio profiadau dysgu.

Dyma esiampl o’r math o weithgareddau fydd yn cael eu cynnal yn y Cylch:

• Chwarae a chymdeithasu â phlant eraill

• Dysgu drwy chwarae, tu fewn a thu allan gan wneud defnydd o’r technoleg gwybodaeth ddiweddaraf.

• Chwarae â dŵr, tywod, toes ac yn y gegin fwd.

• Chwarae mewn ardaloedd chwarae rôl megis siop a gwisgo fyny.

• Chwarae gyda theganau, jig-sos, gemau bwrdd.

• Paentio, gwneud marciau, tynnu llun a gwneud crefftau i gyd-fynd â themau tymhorol.

• Coginio a garddio a datblygu profiadau bywyd.

• Creu cerddoriaeth

• Amser darllen stori a chanu

• Dawnsio ac ymarfer corff megis Ioga a reidio beiciau balans

• Cyfleoedd i’r plant fynychu gweithgareddau a thripiau tu allan i safle arferol y Cylch o leiaf unwaith y tymor.

Oriau / Ffioedd: (yn ystod y tymor yn unig)

Dydd Llun 9-9.30yp

Dydd Mawrth- 9-3.30yp

Dydd Mercher- 9-3.30yp

Dydd Iau- 9-3.30yp

Bore Dydd Gwener- 9-12yp

Ffioedd yn £4.50 yr awr

Mae rhieni a gwarcheidwaid yn gallu gwneud cais am ofal plant wedi'i ariannu ac addysg gynnar am hyd at 30 awr yr wythnos (o’r tymor ar ol i’ch plentyn droi’n 3 oed). 

Mae 30 awr yn cynnwys:

Gallwch hefyd dalu drwy eich cyfrif Gofal Plant sy'n Rhydd o Dreth

Lleoliad 

Cylch Meithrin Glantwymyn,

Canolfan Glantwymyn,

Glantwymyn,

Machynlleth,

Powys,

SY20 8LX

Cysylltwch â ni.

ebost: cylchglantwymyn@icloud.com